Mae Y Sybs yn fand newydd sydd wedi gwneud enw i’w hunain yn ddiweddar gyda’i sŵn indie-punk seicadelig, caneuon bachog a sioeau byw swnllyd ac egniol. Mae’r pedwarawd o Gaerdydd wedi bod yn gigio’n gyson ers ffurfio blwyddyn yn ôl, wrth chwarae gyda bandiau megis Breichiau Hir, Cpt Smith, Los Blancos, ac Omaloma, ac yn cystadlu ym mrwydyr y bandiau eleni hefyd.