DYDD sul, 12.06.22

Taith Tafwyl

Pryd: 14:30-16:30 / DYDD SUL, 12.06.22
Pris: Am ddim, ebostiwch i gofrestru rachel@mentercaerdydd.cymru
Ble: Dechrau y tu allan i’r Amgueddfa ym Mharc Cathays a gorffen ger caffi Tŷ’r Haf ym Mharc Bute

Taith ddiwylliannol a hamddenol o gwmpas Parc Cathays yng nghwmni Dr Dylan Foster Evans a Dr Gethin Matthews. Dewch i ddysgu am yr adeiladau, cofebau a phobl sydd wedi gadael eu marc ar ein prifddinas. Bydd hyd y daith tua 2 awr.

FFRINJ CYMRAEG FINAL

DYDD llun, 13.06.22

Amser Stori

Pryd: 10:30 / DYDD LLUN, 13.06.22
Pris: Am ddim 
Ble: Hyb Radur, Caerdydd, CF15 8DF

Dewch i ddathlu Wythnos Tafwyl! Stori, canu, crefft a chymdeithasu i blant 0 – 4 mlwydd oed. Am ddim!

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Bwrlwm Tafwyl

Pryd: 16:00 / DYDD LLUN, 13.06.22
Pris: £7.00 
Ble: Railway Gardens, Sblot, CF24 2BH 

Gweithy crefftau naturiol gyda Green Squirrel 

7+ 

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Gweithdy Cerddoriaeth Broffesiynol

Pryd: 17:00 / DYDD LLUN, 13.06.22
Pris: Am ddim, angen cofrestru: decymru.ac.uk/tafwyl 
Ble: Yr Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, CF24 2FN

Gweithdy sy’n canolbwyntio ar ddulliau perfformio proffesiynol, gan gynnwys elfennau technegol, cymdeithasol a hyrwyddo.

15+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Gweithdy Ffasiwn Cynaliadwy

Pryd: 17:00 / DYDD LLUN, 13.06.22
Pris: Am ddim, angen cofrestru: decymru.ac.uk/tafwyl 
Ble: Yr Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, CF24 2FN

Parhad hoff ddillad. Ydych chi’n brin o le ar gyfer y dillad allwch chi ddim rhoi’r gorau i’w prynu? Mae’r gweithdy hwn yn archwilio ein cariad at ffasiwn, a sut mae dillad yn llawer mwy na dillad. Dysgwch beth allwch chi ei wneud i ddatblygu eich synnwyr o steil dros ffasiwn.

14+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Gweithdy Animeiddio Metamorffosis

Pryd: 17:00 / DYDD LLUN, 13.06.22
Pris: Am ddim, angen cofrestru: decymru.ac.uk/tafwyl 
Ble: Yr Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, CF24 2FN

Prosiect grŵp byr i greu ffilm animeiddiedig barhaus.  Bydd y ffilm orffenedig yn cael ei dangos yn ystod penwythnos Tafwyl.

14+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Dirty Protest Theatre yn cyflwyno:
Protest Fudr! 

Pryd: 19:00 + 20:30 / DYDD LLUN, 13.06.22
Pris: TBC
Ble: The Other Room, Porters, CF10 2FE

Noson o sgwennu newydd…

“Ni Nôl!” 

Mae Dirty Protest wrth ein boddau yn dychwelyd i fwrlwm Tafwyl eleni gyda 5 drama fer chwareus newydd gan rai o ddramodwyr mwyaf cyfredol a chyffrous Cymru.

Wedi cyfnod ryfedd ym myd y theatr, rydym yn hapus iawn i ddychwelyd i rannu theatr fyw unwaith yn rhagor. Rydym eisiau dathlu ac felly thema y dramâu eleni ydy “NI NOL”

FFRINJ CYMRAEG FINAL

DYDD MAWRTH, 14.06.22

Amser Stori

Pryd: 10:00 / DYDD MAWRTH, 14.06.22
Pris: Am ddim 
Ble: Hyb Grangetown, Caerdydd, CF11 6PA

Dewch i ddathlu Wythnos Tafwyl! Stori, canu, crefft a chymdeithasu i blant 0 – 4 mlwydd oed. Am ddim!

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Sgwad Sgwennu gyda Casi Wyn

Pryd: 16:30-18:00 / DYDD MAWRTH, 14.06.22
Pris: £12 – mentercaerdydd.cymru
Ble: Cwrt Insole, Heol y Tyllgoed, Llandaf, Caerdydd, CF5 2LN

Dere i danio eich dychymyg gyda Bardd Plant Cymru, Casi Wyn… Gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru.

7+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Cyflwyniad i Steilio Ffasiwn

Pryd: 17:00 / DYDD MAWRTH, 14.06.22
Pris: Am ddim, angen cofrestru: decymru.ac.uk/tafwyl 
Ble: Yr Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, CF24 2FN

Mae steilio yn gelfyddyd sy’n cyfuno dychymyg, ffasiwn a ffotograffiaeth i greu delweddau bythgofiadwy. Beth mae Steilydd Ffasiwn yn ei wneud?

  • Dysgwch am wahanol rolau steilydd ffasiwn
  • Nodi tueddiadau a chysyniadoli syniadau
  • Creu byrddau gweledigaeth
  • Saethu eich steil

15+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Dadeni

Pryd: 17:00 + 19:00 / DYDD MAWRTH, 14.06.22
Pris: Am ddim, angen cofrestru: decymru.ac.uk/tafwyl 
Ble: Yr Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, CF24 2FN

Perfformiad o waith theatr newydd wedi ei greu gan fyfyrwyr cwrs Theatr a Drama Prifysgol De Cymru. Gwaith am hunaniaeth, am alar ac am … drag!

14+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Gweithdy Dylunio a Chreu

Pryd: 17:00 / DYDD MAWRTH, 14.06.22
Pris: Am ddim, angen cofrestru: decymru.ac.uk/tafwyl 
Ble: Yr Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, CF24 2FN

Arbrofwch gyda dylunio a chreu 3D wrth gyfuno arlunio a modelu. Dyma gyfuniad o feysydd Arlunio a Dylunio Mewnol gan staff academaidd arbenigol y Diwydiannau Creadigol.

14+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

DYDD Mercher, 15.06.22

Amser Stori

Pryd: 10:30 / DYDD MERCHER, 15.06.22
Pris: Am ddim 
Ble: Hyb Llyfrgell Canolog Caerdydd, CF10 1FL

Dewch i ddathlu Wythnos Tafwyl! Stori, canu, crefft a chymdeithasu i blant 0 – 4 mlwydd oed. Am ddim!

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Bwrlwm Tafwyl

Pryd: 16:00 / DYDD MERCHER, 15.06.22
Pris: £7.00 – mentercaerdydd.cymru 
Ble: Neuadd Santes Catherine, Kings Road, Pontcanna, Caerdydd, CF11 9DE

Gweithdy Gwyddoniaeth gyda Sparklab.

7+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Dod yn ddylanwadwr Instagram ym myd ffasiwn 

Pryd: 17:00 / DYDD MERCHER, 15.06.22
Pris: Am ddim, angen cofrestru: decymru.ac.uk/tafwyl 
Ble: Yr Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, CF24 2FN

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut mae brandiau a dylanwadwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gyrraedd cynulleidfaoedd drwy Instagram. Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu bio effeithiol, creu a rhannu cynnwys diddorol, steilio a thynnu lluniau, creu a rheoli amserlen bostio, a sut i ymgysylltu â chynulleidfaoedd. 

14+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Helfa Drysor Carnhuanawc

Pryd: 18:30 / DYDD MERCHER, 15.06.22
Pris: Am ddim 
Ble: Cwrdd yn: Cwrdd yn Yr Iard, 42-43 Heol yr Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AD

Helfa ar droed ynghanol y ddinas wedi ei arwain gan Keith Bush.  Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw.  Croeso mawr i ddysgwyr

O dan nawdd Cymdeithas Carnhuanawc.

 
FFRINJ CYMRAEG FINAL

Noson Lawnsio ‘Cymry o Fri!’ – gan Jon Gower

Pryd: 19:00 / DYDD MERCHER, 15.06.22
Pris: £7 – mentercaerdydd.cymru 
Ble: Siop Cant a Mil, Ffordd yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 3LY

Lansiad arbennig Llyfr Cymru o Fri yng nghwmni Jon Gower a’r darlunydd Efa Lois. Mewn partneriaeth gyda Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru. 

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Twrw x Tafwyl: Breichiau Hir

Pryd: 19:00-22:00 / DYDD MERCHER, 15.06.22
Pris: £5.00
Ble: Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd, CF10 1BR

Cefnogaeth: Bandiau newydd prosiect ‘Yn Cyflwyno’

16+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

DYDD iau, 16.06.22

Amser Stori

Pryd: 10:00 / DYDD IAU, 16.06.22
Pris: Am ddim 
Ble: Hyb Llyfrgell Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 5HW

Dewch i ddathlu Wythnos Tafwyl! Stori, canu, crefft a chymdeithasu i blant 0 – 4 mlwydd oed. Am ddim!

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Tu ôl i’r Lens  

Pryd: 17:00-19:00 / DYDD IAU, 16.06.22
Pris: £5.00 
Ble: Tramshed Tech, Caerdydd, CF11 6BH

Wedi’i gyflwyno a’i noddi gan asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog, Equinox — mae Tu ôl i’r Lens yn gyfle i ddod i adnabod crewyr a dylanwadwyr Cymraeg sy’n creu cynnwrf ar lein.

Bydd ein panel yn sgwrsio am bob dim o gymorth gyrfa i ddelio gyda’r ochr negyddol o gyfryngau cymdeithasol, ac wrth gwrs, sut maen nhw’n defnyddio eu platfformau a’u brand i arddangos yr iaith Gymraeg mewn modd creadigol, modern a newydd.

16+
 
FFRINJ CYMRAEG FINAL

Dragwyl

Pryd: 19.30 / DYDD IAU, 16.06.22 
Pris: £15
Ble: Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd, CF10 1BR 

Menter Caerdydd, Tafwyl a Clwb Ifor Bach yn cyflwyno… Connie Orff, Catrin Feelings, Anniben, Biwti a Mwy!

Bydd Connie Orff a’i ffrindiau ffabiwlys yn cynnal noson ddrag fel rhan o Wythnos Ffrinj Tafwyl – y cyntaf o’r fath yn y Gymraeg! Dewch i ddathlu popeth camp, Cwîr a Chymraeg. Bydd hi’n noson llawn gigls, gorfoledd a glityr.

FFRINJ CYMRAEG FINAL

DYDD gwener, 17.06.22

Amser Stori

Pryd: 14:00 / DYDD GWENER, 17.06.22
Pris: Am ddim 
Ble: Hyb yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7XA

Dewch i ddathlu Wythnos Tafwyl! Stori, canu, crefft a chymdeithasu i blant 0 – 4 mlwydd oed. Am ddim!

FFRINJ CYMRAEG FINAL

Cwmni Theatr Arad Goch yn cyflwyno – Twm Siôn Cati  

Pryd: 13:00 + 17:00 / DYDD GWENER, 17.06.22
Pris: £8 –  01970 617998 neu post@aradgoch.org 
Ble: Theatr, Yr Atrium, Prifysgol De Cymru CF24 2FN

Dewch i ddathlu bywyd yr arwr gwerinol llawn sbort yma gydag awr o theatr hwyliog. Ymunwch â ni ar y daith!

7+
 
FFRINJ CYMRAEG FINAL

Twrw x Tafwyl: Yr Ods

Pryd: 19.00-22:00 / DYDD GWENER, 17.06.22 
Pris: £8.00 
Ble: Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd, CF10 1BR  

Cefnogaeth: TBC

18+

FFRINJ CYMRAEG FINAL

DYDD SUL, 19.06.22

Parti ar ôl Tafwyl 

Pryd: 22:00-03:00 / DYDD SUL, 19.06.22
Pris: £4.00 
Ble:
 Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd, CF10 1BR 

Gyda: Gareth Potter

FFRINJ CYMRAEG FINAL