Dewch i gwrdd â Chriw’r Coed! Y pump archarwr sydd yn mynd i ddatrys dirgelwch y gwenyn coll. Yn y sesiwn yma fe fydd yr awdur, Carys Glyn, yn darllen ac yn rapio ei stori wrth i chi ddod i adnabod G-Hw, Er, Mal, Carwww a Chwim. Bydd hi hefyd yn rhannu ffeithiau ffantastig er mwyn i chi sylweddoli pa mor wych yw gwenyn!
Stoooop! Ydych chi eisiau gwybod fy ‘Top Tips’ i am sut i greu TikToks eiconig? O ddarganfod pa filters yw’r gorau i bigo yr hashtags mwyaf poblogaidd – ymunwch â fi i ddysgu sut i greu TikTok!
Ydych chi erioed wedi dychmygu be fyddai gŵyl sydd wir yn ddigidol yn edrych fel!? Ymunwch gyda ni yn y sesiwn ryngweithiol hon, lle bydd Llinos Pritchard yn ein tywys drwy adeiladu safle Tafwyl ar Minecraft, a gallwch weld gyda’ch llygaid eich hun! Mae Llinos yn artist amryddawn sydd eisoes wedi ailgreu adeiladau adnabyddus Stryd Womanby ar Minecraft – ewch i’w dilyn @linnetcosplay i ddarganfod mwy o’i gwaith!
Do Re Mi fydd yn dod a’r parti i’ch ystafell fyw wrth i ni ddechrau dathliadau Tafwyl gyda’r rhai bach! Bydd digon o ganu, dawnsio a gemau i ddiddanu’r teulu cyfan – dewch i ymuno yn y parti!
Dewch i neud picnic hynod o flasus gyda Bacws Haf ar gyfer Tafwyl eleni! Mi fydd y sesiwn zoom yn rhoi cyfle i chi holi cwestiynau a dysgu wrth i chi ddilyn Mrs.Hayes er mwyn neud y picnic perffaith.
Meddwl y gallwch chi ddal fyny gyda ‘moves’ Mr Urdd? Dewch i gael parti gyda’r dyn ei hun yn ei ddisgo – sesiwn llawn cerddoriaeth, hwyl a dawnsio gyda ffrindiau!
Ymunwch â Ceri Wyn Jones (@thatgingerymua) ar diwtorial arbennig gwallt a cholur yn y thema ‘gŵyl’. Meddyliwch ‘space buns’ a hwyl or 90au. Dewch â’ch glitter a’ch hoff glipiau pili pala retro a casglwch yr holl ysbrydoliaeth fyddech angen arnoch chi y tymor gŵyl yma!
Cadwch lygaid allan am tiktok arbennig iawn y byddaf yn ei rannu gyda chi i gyd ddydd Iau y 13eg o Fai am 4.00pm! Coeliwch fi, ni fyddwch am golli’r un hon. Ewch i ddilyn @ellislloydjones ar tiktok.
Mae’r amser stori arbennig yma yn dod o Gastell Caerdydd, lle bydd yr actores Jalisa Andrews yn ein tywys drwy fyd hudol ‘Dy Wallt Yw Dy Goron’ – llyfr cyntaf Cymraeg yr awdures plant Jessica Dunrod.
Yn arddangos talentau disgyblion amryddawn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae’r perfformiad dawns hyn wedi’w ysbrydoli gan dirwedd a diwylliant Caerdydd a Chymru tu hwnt.
Pa ffordd well i ddechrau dathliadau Tafwyl na gyda Cyw a’i ffrindiau! Bydd Cywioci, canu, dawnsio a mwynhau, a digon o gyfleoedd i ddarganfod yr holl weithgaredau hwyl sydd ar gael i’ch rhai bach chi fel rhan o’r ŵyl!
Dewch i ddawnsio gyda’r berfformwraig Jalisa Andrews! Wedi’i gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru, mae’r fideo dawns hwn yn addas i blant o flynyddoedd 3 – 6.
Dewch i fwynhau a mynd a’r antur i Tafwyl gyda Siani Sionc, addas ar gyfer plant derbyn – Bl.2.
Eisiau perffeithio’r pasio a dysgu campiau cicio? Dewch i ddarganfod ‘top tips’ y Gleision ar sut i feistroli amrywiaeth o sgiliau pêl rygbi!