LLAIS
Noddir gan Academi Hywel Teifi

DYDD SUL, 09.05.21 | 19:30
Am yn ail
Roedd ‘Seremoni Cadeirio’r Bardd’ yn Eisteddfod Bro Colwyn, 1995 yn un gofiadwy wrth i’r bardd ifanc buddugol, Tudur Dylan Jones, gael ei gadeirio gan ei dad ac Archdderwydd, John Gwilym Jones. Chwarter canrif yn ddiweddarach, dyma lansio eu cyfrol hirddisgwyliedig o farddoniaeth ar y cyd, Am yn ail – cyfrol sy’n canolbwyntio ar deulu a pherthynas y ddau gyda’i gilydd, ar Gymru ac ar fro, ar iaith a chenedl.
Mae’r sesiwn hon yn cael ei chynnal trwy zoom. Bydd angen cofrestru eich diddordeb trwy ebost ymlaen llaw i dderbyn y linc.
Trefnir ar y cyd rhwng Barddas a Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru
DYDD LLUN, 10.05.21 | 19:30
Pwytho | Pwyllo: gorffennol a dyfodol ffasiwn araf yng Nghymru
Efa Lois fydd yn trafod gorffennol a dyfodol ffasiwn araf yng Nghymru gyda Mirain Iwerydd, Sylvia Davies o Eto Eto, ac Elen Phillips o Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

DYDD MAWRTH, 11.05.21 | 19:30
HOLI HELEN A DYLAN
Oes cwestiwn gyda chi am yr iaith Gymraeg neu am ddysgu Cymraeg? Beth am hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd neu addysg Gymraeg? Ymunwch â’r Athro Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd a Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i glywed yr atebion i’ch cwestiynau chi.
Mae’r sesiwn hon yn cael ei chynnal trwy zoom. Bydd angen cofrestru eich diddordeb trwy ebost ymlaen llaw i dderbyn y linc.
Trefnir gan Dysgu Cymraeg
DYDD MERCHER, 12.05.21 | 19:30
Merched yn Gwneud Miwsig
Yn y panel yma cawn glywed hanes Lily Beau Conway (Ymgynghorydd A&R a Cantores) a Mared Williams (Cantores a Chyfansoddwraig), wrth iddynt ddewis y cerddoriaeth sydd wedi newid eu bywyd.
Prosiect ar y cyd rhwng Maes B a Clwb Ifor Bach yw Merched yn Gwneud Miwsig. Cyn i’r pandemic fwrw, roedd y prosiect yn cynnig gweithdai cerddoriaeth oedd yn cael eu rhedeg gan fenywod blaenllaw y sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Pwrpas y gweithdai oedd annog mwy o ferched i droedio llwyfannau Cymru ac i drafod syniadau a meithrin sgiliau newydd.
Yn ystod 2020 mae Merched yn Gwneud Miwsig wedi bod yn creu zines sydd wedi’i guradu gan menywod y sîn a sgwrsio mewn podcast sydd yn dogfennu eu storïau.
Trefnir ar y cyd rhwng Clwb Ifor Bach a Maes B
DYDD IAU, 13.05.21 | 19:30
Yr Actor a’i Stori
Mae’r actor Andrew Teilo yn wyneb cyfarwydd ar Bobol y Cwm. Dewch i glywed am awydd yr actor i droi’n awdur a’r modd y lluniodd gasgliad o straeon byrion ar gyfer ennill gradd MA yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Mewn sgwrs â’i diwtor, yr Athro Tudur Hallam, bydd Andrew yn sôn am ei daith greadigol i fyd y stori fer, a’n cyflwyno i ambell gymeriad a stori newydd.
Trefnir gan Academi Hywel Teifi
DYDD SADWRN, 15.05.21

12:45 Cymry Cymysg
Bydd Jalisa Andrews, Gareth Hicks a Mali Ann Rees yn ymuno â Seren Jones i drafod eu profiadau nhw fel unigolion sy’n Gymry o gefndiroedd cymysg.
Mae’r sesiwn hon yn cefnogi ymgyrch Siyanda Mngaza.

13:15 Esgusodwch fi?
Esgusodwch fi? Yda chi’n gwrando? Gobeithio’ch bod chi gan fod Meilir a Iestyn ar fi’n lansio podlediad newydd.
Tiwniwch fewn i lansiad podlediad cwiar Cymraeg cyntaf Cymru.

14:15 Llafur Cariad
Beth yw gofal? Ac a ddylid talu rhieni i aros gartref i ofalu am eu plant a’u cartrefi? A ddaw economi ‘rhodd’ i leddfu economi farchnad? Catrin Ashton, Eluned Gramich a Huw L Williams fydd yn trafod eu cyfraniadau i rifyn gwanwyn O’r Pedwar Gwynt.
Trefnir gan gylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt.
15:15 Hanes Cymry
Pwy yw’r Cymry? Bydd y gyfrol gyntaf am hanes lleiafrifoedd ethnig yn y Gymru Gymraeg, Hanes Cymry, yn cael ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Mehefin. Bydd awdur y gyfrol, Dr Simon Brooks o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, mewn sgwrs gyda Dr Gwennan Higham o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, yn trafod hanes yr iaith Gymraeg fel iaith aml ethnig o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw gan ystyried hanes y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad a hiliaeth yn erbyn pobl ddu.
Trefnir gan Academi Hywel Teifi
16:15 Beti a’i phobol
Beti George fydd yn holi un o bobol ifainc diddorol Caerdydd, Sara Yassine mewn rhifyn arbennig o Beti a’i Phobol.
Trefnir gan BBC Radio Cymru
17:15 Euros o adref
Trefnir gan CPDC
