TAFWYL YN TEITHIO DROS FÔR YR IWERYDD
Mae Tafwyl yn falch iawn o gydweithio gyda Gŵyl Werin Philadelphia, gŵyl gerddoriaeth hynaf Gogledd America, sy’n denu cynulleidfa o 35,000, ac yn dathlu ei 59fed blwyddyn eleni.
Dyma ŵyl arloesol arall, sy’n cynnig profiad cerddorol cwbl ddigidol am y tro cyntaf eleni o’r 13eg-16eg o Awst 2020.
Bydd cyfle i ail fyw perfformiad Tafwyl Digidol gan y canwr a chyfansoddwr adnabyddus a phoblogaidd Al Lewis fel rhan o’r ŵyl hon, yn ogystal â mwynhau rhai o uchafbwyntiau eraill Tafwyl eleni.
Dywedodd Al Lewis:
“Rwy’n hynod gyffrous am rannu fy mherfformiad o ŵyl Tafwyl eleni gyda mynychwyr Gŵyl Werin Philadelphia. Rwy’n falch iawn o fy ngwreiddiau yng Nghymru ac mae gallu rhannu ein diwylliant a’n cerddoriaeth gyda phobl o bob cwr o’r byd yn un o’r prif resymau pam fy mod i wrth fy modd yn gwneud y swydd hon. Gobeithio yn y blynyddoedd i ddod byddaf yn gallu mynd i Philadelphia a pherfformio’r caneuon hyn yn y cnawd! Diolch i Tafwyl a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru am alluogi’r prosiect hwn i ddigwydd. ”
Rydym yn ddiolchgar i Celfyddydau Rhyngwladol Cymru am y gefnogaeth i bartneru fel hyn eleni. Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:
“Fel un o Bartneriaid Rhyngwladol Philadelphia Folk Festival eleni ac fel rhan o’n buddsoddiad yn Negawd Ieithoedd Brodorol UNESCO, rydym yn falch i allu dod â cherdyn post cerddorol o Gymru i Philadephia ar ffurf perfformiad rhagorol Al Lewis yn Tafwyl. Mae hyn yn gyfle arbennig i roi cerddoriaeth Gymraeg ar lwyfan rhyngwladol ac i fanteisio ar allu gwyliau digidol i gludo artistiaid a chynulleidfaeoedd i bob cwr y byd – o Gastell Caerdydd i Bensylfania.”