Gwerthusaid Tafwyl 2021

Heddiw cyhoeddir Adroddiad Gwerthuso Tafwyl 2021 gan Menter Caerdydd, sy’n nodi ymateb anhygoel ein cynulleidfa i’r Ŵyl eleni.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Tafwyl Digidol 2020 ac yn sgil ansicrwydd blwyddyn heriol arall o gyfyngiadau COVID-19, datblygwyd cysyniad Tafwyl ymhellach.

Paratowyd gweledigaeth uchelgeisiol i greu digwyddiad rhithwir fyddai’n adlewyrchu gwerthoedd craidd yr ŵyl draddodiadol: yn gyfle i ddathlu’r iaith, celfyddydau a diwylliant trwy gerddoriaeth, sgwrs, llenyddiaeth, adloniant a gweithgareddau amrywiol i blant.

Yna, wrth i’r cyfyngiadau lacio ychydig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cyfres o ddigwyddiadau prawf yn cael eu cynnal ac y byddai Tafwyl yn un ohonynt.

Croesawyd 500 o bobl i Gastell Caerdydd ar 15 Mai i fwynhau rhan olaf yr ŵyl uchelgeisiol eleni – gyda phob un fu’n mynychu yn dilyn canllawiau profi llym o flaen llaw a rheolau iechyd a diogelwch ar safle’r ŵyl. Roedd rhaid cadw pellter cymdeithasol, gyda phob grŵp yn eistedd o gwmpas eu bwrdd, gan fwynhau gwasanaeth gweini o’r stondinau bwyd a diod.  Roedd yn brofiad mor arbennig cael cynulleidfa fechan o fewn muriau’r Castell am ychydig oriau i ddathlu pen-blwydd Tafwyl yn 15 oed.

Tafwyl oedd yr ŵyl gerddorol gyntaf yng Nghymru i chwarae cerddoriaeth fyw o flaen cynulleidfa fyw ers mis Mawrth 2020.

Er presenoldeb ein cynulleidfa yn y Castell, roedd hi’n gydradd bwysig i gynnig profiad cyffrous a naws gŵyl fyw i’n gwylwyr oedd yn ymuno o’u cartrefi.  Bu Tafwyl 2020 yn agoriad llygad i’r hyn sy’n bosibl ei gyflawni yn ddigidol, a mawr oedd ein dyhead i ehangu ar yr arlwy o’r llynedd, a sicrhau profiad mwy hygyrch a chynhwysfawr i’n cynulleidfa.

Roedd gosod llwyfan teilwng i’r artistiaid yn hanfodol, a datblygwyd y profiad eto eleni gan gynnig yr opsiwn o ddewis is-deitlo Saesneg i’n ffrwd fyw ar y diwrnod. Sicrhaodd hyn fynediad i’n cynulleidfa sy’n dysgu Cymraeg, yn llai hyderus neu’n ddi-Gymraeg i deimlo’n rhan o’r ŵyl.

Ymunodd cynulleidfa fyd-eang o dros 35,000 o bobl i fwynhau fersiwn ddigidol o Tafwyl eleni, gyda rhai yn gwylio o UDA, Tsieina, Rwsia, Yr Ariannin ac Indonesia i enwi ond rhai gwledydd.

Roedd cyfuniad cyffrous o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau a gweithgareddau:

  • 16 SET GAN ARTISTIAID AMLYCAF CYMRU A LLYDAW YN PERFFORMIO 90+ O GANEUON;
  • 29 O GYFRANWYR MEWN 11 SESIWN GWREIDDIOL YN ‘LLAIS’;
  • 7 SESIWN AMRYWIOL YN ARDAL NEWYDD ‘LLES’;
  • 14 SESIWN I BLANT/BOBL IFANC YN ‘BWRLWM’;
  • PLATFFORM I 20 O YSGOLION CYNRADD AC UWCHRADD CAERDYDD DDATHLU EU TALENTAU;
  • 25 O DDISGYBLION CYNRADD AC UWCHRADD Y DDINAS YN PERFFORMIO AR Y CYD GYDAG ARTISTIAID O’R WEST END.

Gwyliodd 43% o’r gynulleidfa drwy gydol y prynhawn tra roedd 18% yn pigo mewn ac allan.  Teimlai 100% fod yr Ŵyl yn groesawgar ac roedd 100% yn debygol o ddychwelyd i Tafwyl.

Wrth i ni ystyried Tafwyl 2022 byddwn yn adolygu a mireinio’n gweledigaeth ac yn craffu ar lwyddiannau, cyfleoedd a heriau’n gŵyl hybrid eleni. Y bwriad fydd parhau i arloesi, dysgu ac esblygu a darparu gŵyl falch a chynhwysol sy’n dathlu iaith, celfyddyd a diwylliant Cymreig hyderus yng nghanol Caerdydd.

Gwerthusiad llawn yma.

 

Nodiadau i’r Golygydd

  • Trefnir Tafwyl gan Menter Caerdydd; elusen sy’n hyrwyddo ac yn ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yng Nghaerdydd.
  • Mae cynulleidfa Tafwyl wedi tyfu’n aruthrol dros y blynyddoedd o ychydig dros fil o bobl yn 2006, i bron i 40,000 yn 2019. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim, sy’n agored i bawb – siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd, gan apelio at deuluoedd a phobl o bob oed a chefndir.