Skip to content

CERDDORIAETH

Music
Tafwyl Cerddoriaeth 2021
Thallo

Clywir gwraidd o arddull jazz, gwerin ac electronig yng ngherddoriaeth Thallo, sef prosiect Elin Edwards. Gyda chaneuon yn y Gymraeg a Saesneg, mae sain cyfoethog yn cael ei blethu’n ofalus rhwng ei llais a chyfeiliant band mewn trefniannau cymhleth. Gwnaeth sengl ‘I Dy Boced‘ sefydlu Thallo fel “un o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru” yn ôl PYST, ac ers hynny mae Thallo wedi derbyn canmoliaeth gan y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg a thu hwnt. Mae Thallo yn aml wedi cael sylw Radio Cymru, Radio Wales, Radio 1, ac wedi perfformio mewn gŵyliau a chyngherddau ar draws Llundain, ac yng Nghymru, gan gynnwys St Pancras Old Church a gŵyl Other Voices.

Cewch wylio fideo ei sengl newydd ‘Mêl’ fan hyn

“This has reduced me to a wet puddle of hyperbole…absolutely outstanding.” – Adam Walton, BBC Radio Wales

“Maen nhw’n anhygoel. Mi wnes i wirioneddol mwynhau y set.” – Huw Stephens

Brawd a dwy chwaer – Elan, Marged a Gwilym Rhys o ardal Caernarfon yng Ngogledd Cymru yw’r grwp Plu. Mae Plu yn fand werin-bop amgen ac mae harmoni agos 3 rhan yn asgwrn cefn cyson i’w set amrywiol.

Mae’r band yng nghanol cynhyrchu eu pedwaredd albwm gyda chaneuon gwerinol ag Americana i’w disgwyl hwyrach eleni.

Plu
Papur Wal

Yn wreiddiol o’r Gogledd, mae Papur Wal nawr wedi’w lleoli yng Nghaerdydd. Ffurfiwyd y band yn 2017, cyn cadarnhau eu statws fel trio blwyddyn yn ddiweddarach. Mae eu hysbrydoliaethau yn amrywio o fandiau’r 90au, fel Built To Spill, Pavement a Teenage Fanclub i roc y 70au megis Big Star, Todd Rundgren a Nils Lofgren. Drwy gyfuno Pop Pŵer a ‘Slacker’ maent yn creu cwmpawd unigryw o synau – yn gweddu alawon melys gydag amrywiadau tempo lu. Cyflwynwyd eu doniau dweud stori, ynghyd â’u gallu i drafod a thrîn pynciau anodd, yn eu EP gyntaf ‘Lle Yn Y Byd Mae Hyn?’ (2019), a seiliodd lle Papur Wal yn y sîn gerddoiaeth Gymraeg. Yn dilyn hyn daeth eu Ochr-A Ddwbl ‘O’n Ni’n Ffrindia / When He’s Gone’ (2019) – a gafodd amser-awyr ar BBC Radio 6 a BBC Radio 1 – a oedd yn dod â’u dylanwadau roc yn fwy blaenllaw, ond dal heb anghofio eu gwreiddiau ‘Slacker’.

Roedd eu Ochr-A Ddwbl nesaf ‘Meddwl Am Hi / Piper Malibu’, a gafodd ei rhyddhau cyn dyddiau’r pandemig yn 2020, i fod yn arwain at ryddhau eu halbwm gyntaf hir-ddisgwyliedig ond bu rhaid gohirio’r albwm tan 2021.

Ffurfiwyd yn 2014 yn ardal Caernarfon. Rhyddhawyd ein albwm gyntaf, Bwncath, yn haf 2017 a daeth yr albwm ddiweddaraf, Bwncath II, allan ym mis Mawrth 2020. Cafodd yr albwm gyntaf ei chynhyrchu gan Robin Llwyd – a fo ac Elidyr wnaeth recordio bron â bod popeth sydd arni.

Yn 2019, cafwyd ymateb gwych i’r ddwy sengl sef ‘Clywed Dy Lais’, a’r gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’, ‘gafodd ei pherfformio hefyd gan y band yn yr Ŵyl Ban Geltaidd. Yn ogystal â hyn, rhyddhawyd fideo arbennig (wedi’i animeiddio gan Lleucu Non) i’r gân ‘Dos Yn Dy Flaen’ i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2020, a chyrhaeddodd y dair cân y Clwb Can Mil o ffrydiau ar Spotify.

Recordiwyd yr albwm ‘II’ yn Stiwdio Sain ac mae’r 4 aelod yn gigio’n rheolaidd gyda’i gilydd ers dros flwyddyn. “Mae hi wedi bod yn braf iawn recordio’r albwm fel pedwarawd am y tro cyntaf. Mae’n sicr yn teimlo fel cyfanwaith rhwng y pedwar ohonom ni ac yn driw i’n perfformiadau byw.” Cynhyrchwyd ‘II’ gan Robin Llwyd a dylunwyd y gwaith celf gan Elidyr Glyn.

Bwncath

Merch o Gaerdydd ydy Mali ac mae wedi bod yn astudio yng Ngholeg Cerdd Leeds. Er hynny, galwodd hiraeth hi’n ôl i Gaerdydd i geisio datblygu ei gyrfa gerddorol. Daeth y symudiad ychydig yn gynharach na’r bwriad oherwydd Covid a’r clo mawr, a gyda hynny penderfynodd newid ei henw llwyfan hefyd o Mali Melyn i’w henw gwreiddiol, Mali Hâf.

Wedi rhyddhau ei sengl newydd ‘Refreshing/Ffreshni’ yn Ionawr 2021 – Mae’r trac yn ddilyniant i’r gân ‘Aros Funud’ a gyfansoddodd ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru 2019.
Mae ‘Refreshing / Ffreshni’ yn gân am berthynas iach, boed gyda pherson arall neu gyda natur. Dyma berthynas lle mae yna ymddiried a pharch a siawns o fod yn unigolyn creadigol heb ragfarn.

Mae’r sengl hefyd yn ddechrau ar gydweithrediad newydd gyda’r cynhyrchydd, DJ a cherddor Shamoniks, neu Sam Humphreys, sy’n gyfarwydd fel aelod o Calan ac am ei waith diweddar gydag Eädyth.

Rhyddhawyd albym unigol cyntaf Mared, ‘Y Drefn’ ynghanol 2020 ar Recordiau I KA Ching. Gyda amrywiaeth mawr o ddylanwadau, mae’r albym yn mynd ar daith trwy genres gwahanol, yn cychwyn gyda cyfuniad o werin a phop yn ‘Y Gwydr Glas’ a ‘Y Reddf’ ac yna yn symud tuag at arddulliau jazz a soul gyda ‘Pontydd’ a ‘Dos i Ffwrdd’. Roedd Mared yn perfformio ar y West End yn sioe Les Miserables cyn Mawrth 2020 ac mae hi’n cysidro’r profiad sioe gerdd yma yn bwysig i’w perfformio fel artist unigol. Ar ol curadu pennod o ‘Curadur’ nol ym mis Mawrth, cafodd Mared flas ar berfformio’r caneuon gyda band cyfan felly mae hi’n edrych ymlaen i wireddu’r breuddwyd yma yn Tafwyl.

Mared
Breichiau Hir

Band o Gaerdydd sy’n creu caneuon roc trwm sy’n ffrwydro gyda emosiwn. Mae gallu’r band i neidio o ddarnau bregus a thawel i daranu egnïol a swnllyd yn siapio steil y band.

Mae elfennau a dylanwadau o gerddoriaeth post-hardcore, punk, emo, indie rock a post-rock gyda’r band, ond dyw’r band ddim yn ffitio’n berffaith mewn i un o’r genres yma. Ma’ sain y band yn un pwerus, sydd yn cael ei rheoli gan emosiwn ag angerdd melodig.

Fydd album cyntaf y band mas yn Haf 2021.

Ers iddynt ffurfio yn 2005, mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi rhyddhau pedair record hir ac wedi perfformio ar hyd a lled y byd. Cafodd eu trydedd record, ‘Draw Dros y Mynydd’, ei henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2012, a’r llynedd bu’r band ar daith ledled Cymru i ddathlu deng mlynedd ers rhyddhau eu hail, ‘Dyddiau Du Dyddiau Gwyn’. Ar hyn o bryd, maent yn gweithio ar y bumed.

Cowbois
Emezi

Deuawd o ddwy ferch ifanc, Perynn Bleunven ac Elise Desbordes yw EMEZI (“dywed hi” yn Llydaweg). Mae eu cerddoriaeth yn cael ei chanu mewn Llydaweg er nid yw ei genre wedi’i ysbrydoli gan draddodiad.

Mae Elise yn chwarae’r allweddelli a Perynn yr offerynnau taro, ond yn sicr defnyddio eu llais yw’r angerdd, ar ôl canu ers amser maith mewn corau a grwpiau lleisiol. Maen nhw’n cael eu ysbrydoli gan y gerddoriaeth maen nhw’n gwrando arni, gan amrywio o jazz i hip hop, a phop wrth gwrs! Gall geiriau eu caneuon fod yn bersonol ar adegau a weithiau’n wleidyddol, ond heb os, does dim angen siarad Llydaweg yn rhugl i ddeall eu hysbryd!

Mae Eädyth yn prysur ddod yn enw adnabyddus i wrandawyr BBC Wales a BBC Radio Cymru oherwydd ei sain electro enaid unigryw a’i delyneg ddwyieithog. Yn 2020, derbyniodd amser awyr hefyd gan KISS FM a BBC Radio 1. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Eädyth wedi bod yn rhan o gynlluniau datblygu talent BBC Horizons a Forté Project, gan brofi ymhellach sut y buddsoddodd diwydiant cerddoriaeth Cymru yn ei thaith i ddod yn un o’n hartistiaid mwyaf ffres ar y sîn. Yn ddiweddar, bu Eädyth yn gweithio ar gyfres ‘Calon Caerdydd’ (Theatr y Sherman) fel Cyfansoddwr a Dylunydd Sain. Mae 2021 wedi dechrau ar nodyn uchel, gyda rhyddhau ei sengl newydd “Breuddwyd” ar Ddydd Miwsig Cymru tra hefyd yn ennill gwobr 2020 yn Gwobrau’r Selar.

Eädyth
Ani-Glass

Ani Glass yw enw llwyfan y cerddor electronig, cynhyrchydd ac arlunydd, Ani Saunders o Gaerdydd. Mae Glass yn canu yn y Gymraeg a’r Gernyweg ac ym mis Mawrth 2020 rhyddhawyd ei halbwm gyntaf ‘Mirores’. Yn ogystal â derbyn llawer o ganmoliaeth, fe wnaeth hefyd ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn a chyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

“Mae Mirores yn gampwaith” Y Twll

Yna fe wnaeth Glass rhyddau EP llawn cymysgiadau o’r sengl Ynys Araul a oedd yn cynnwys un fersiwn gan Orchestral Manoeuvres in the Dark. Bu Ani gynt yn aelod o The Pipettes, gan ymuno i recordio’r albwm Earth Vs. The Pipettes gyda’r cynhyrchydd Martin Rushent.

Sefydlwyd Derw gan ddeuawd mam a mab, y gitarydd Dafydd Dabson a’r delynores Anna Georgina, yn dilyn eu llwyddiant wrth gyrraedd rownd derfynol  Cân i Gymru yn 2018, y tro cyntaf iddynt sgwennu efo’i gilydd. Elin Fouladi, y gantores Gymraeg/Iraniaidd sy’n arwain Derw, gyda cherddorion o fandiau Cymraeg fel Zervas and Pepper, Afrocluster a Codewalkers yn rhan o recordio ei EP gyntaf ‘Yr Unig Rai Sy‘n Cofio’, a ddaeth allan yn mis Mawrth.

Mae’r band wedi ei ddylanwadu gan fandiau pop siambr fel ‘The National ac Elbow’ ac mae ganddynt gysylltiad cryf gyda’r gorffennol a hanes eu teulu, yn cymeryd eu henw gan dad Anna – Derwas.  Mae’r teulu yn llawn straeon cyfareddol, a bwriad ’Yr Unig Rhai Sy’n Cofio’ yw sicrhau bod nhw’n aros mewn cof.

Mewn pedair blynedd, mae Gwilym wedi hoelio eu hunain fel un o fandiau mwyaf y sîn gerddoriaeth yng Nghymru gyda chaneuon fel ‘Catalunya’ a ‘\Neidia/’ yn cael eu clywed ar y radio fyth a beunydd. Yn dilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf, ‘Sugno Gola’ (2018), a llu o wobrau, maen nhw’n brysur yn recordio eu hail albwm. Gadewch i’w tiwns hafaidd a bachog roi gwên ar eich wyneb a’r curiadau eich gorfodi i ddawnsio!

“Band poblogaidd, tiwns am byth.” – Recordiau Côsh

Mae llawer wedi newid ers gwreiddiau Lewys fel prosiect unigol nol yn 2017. Ers dwy flynedd bellach, mae Lewys nawr yn fand, gyda’r aelodau (Lewys, Iestyn, Ioan, Gethin) i gyd yn cyfrannu at yr ysgrifennu, yn ogystal a chwarae sioeau byw anhygoel. Rhyddhawyd eu halbym cyntaf ‘Rhywbryd yn Rhywle’ ym mis Mawrth 2020, sy’n cynnwys ‘Hel Sibrydion’, ddaeth yn fuddugol nghategori ‘Can Orau’ Gwobrau Selar eleni.

Wedi dwy flynedd o fethu’n lân a ‘sgwennu ar ôl rhyddhau ei halbwm ‘Atgof Prin’ yn 2018 (Sain) mae Glain yn ei hôl gyda chaneuon a sŵn newydd a’r addewid o albwm erbyn yr haf.

Roedd Glain yng nghanol rhediad o’r sioe ‘Phantom of the Opera’ yng Ngroeg gyda chast o’r West End pan alwyd y Cyfnod Clô cyntaf. Er gwaetha’r siom o derfynu’r sioe yn fuan, cynigodd hyn gyfnod heb bwysau i Glain greu o’r newydd. 

Mae dylanwadau Glain yn cynnwys Billie Eilish, Greta Isaac a Phoebe Bridgers.

Y gobaith yw rhyddhau albwm rhif dau erbyn diwedd yr haf!

Nid oes unrhyw un a all gymharu gyda effaith a dylanwad enfawr Geraint Jarman ar gerddoriaeth Gymraeg dros yr hanner canrif diwethaf. Fel cyfansoddwr, bardd, perfformiwr a chynhyrchydd teledu hynod wreiddiol, mae wedi cael effaith ddiffiniol ar bob degawd o hanes diwylliant ieuenctid Cymraeg.

Cafodd ei eni yn 1950, a’i ysbrydoli gan weld Bob Dylan yn perfformio gyda’i fand trydanol yng Nghaerdydd yn y chwedegau cynnar. Fe ddaeth, yn ei arddegau, yn ffigwr amlwg yn y diwylliant fel bardd modernaidd dan ddylanwad y ‘beats’ yn troedio strydoedd a clybiau y ddinas. Esblygodd ei bersona barddonol wrth i Geraint droi at gyfansoddi caneuon a pherfformio. Erbyn 1969 roedd wedi ymuno gyda ei chyd-gynllwynwyr Meic Stevens (un arall o brif eiconau diwylliannol Cymru) a Heather Jones (gwraig Geraint a cantores pop a gwerin) i ffurfio’r Bara Menyn. Band jôc oedd i ddechrau, a ddaeth yn llwyddiannus iawn yn gyflym oherwydd eu caneuon pop seicadelig. Bu’n rhaid i’r band ddod i ben wrth iddo droi at yrfa actio a barddoni llwyddiannus ar droad y ddegawd.

Yn DJ ar llawr ganol Clwb Ifor Bach ar Nos Sadwrn am bron i 15 mlynedd, mae Gareth wedi defnyddio’i sgiliau troelli i rocio partïon mewn bariau, clybiau a gwyliau led led Cymru a’r byd. O Latitude i Camp Bestival a Gwyl Rhif 6, o Ibiza i Tokyo, mae Gareth wrth ei fodd cael bod tu ôl i’r deciau yn arwain yr hwyl. Yn ddiweddar bu’n ysgrifennu podlediad ar hanes pop Cymraeg (The Story of Miwsig – BBC Sounds) ac mae’n gaddo dod a rhai o bangers y gorffenol a’u cymysgu gyda deunydd newydd y sîn i ddod ag arlwy gwbwl unigryw ar gyfer parti Tafwyl eleni. Trowch y sain I fyny a dawnsiwch fel eich modryb, mae Mr. Potter yn dod i’r ty!