BWRLWM

Cyw: Helô Shwmae Tafwyl!
Pa ffordd well i ddechrau’r ŵyl na gyda Huw ac Elin a ffrindiau Cyw? Digon o joio, dawnsio a chanu – y ffordd berffaith i’n cael ni’n barod am barti!
Trefnir gan Boom Plant – cyw.cymru
Gweithdy Eco-Grefft gyda Green Squirrel
Ymunwch i greu eich Anghenfil Swigod eich hun! Amser i dyrchu drwy’r bin ailgylchu a’r blwch crefft er mwyn dod o hyd i beth ‘da ni angen – mae’n grêt osgoi prynu deunyddiau ychwanegol pan allwn ni ddefnyddio pethau sydd ganddo ni’n barod! Peidiwch â phoeni os nad oes ganddo chi bopeth ar y rhestr adnoddau!
Pa adnoddau sydd angen?
Potel blastig fach
Hen hosan neu ‘tights’
Band elastig neu fand gwallt
Siswrn
Cyllell grefft neu gyllell finiog (dan oruchwyliaeth oedolyn)
Powlen
Dŵr
Sebon llestri
Deunyddiau Addurno Opsiynol:
Pennau Sialc / Pennau Ffelt / Paent
Tâp Lliw
Sticeri
Gweithdai Chwaraeon Gyda’r Urdd
Dewch i gadw’n heini drwy ymuno gyda Phrentisiaid Chwaraeon yr Urdd mewn sesiwn chwaraeon hwyl ac egnïol wedi’i seilio ar ffitrwydd ac aml-chwaraeon. Bydd Tom a Gethin yn ein harwain trwy amryw o weithgareddau, a gallwch gymryd rhan yn unigol neu fel teulu cyfan. Bydd rhywbeth at ddant bawb!
Isod mae rhestr o offer bydd angen:
• Raced tenis NEU badell ffrio
• Pêl tennis NEU sanau wedi’i rolio
• Pêl rygbi NEU glustog
• Pêl-droed NEU Sanau / Balwn
• 4 pêl NEU 4 par o sanau wedi’i rolio
Gweithdy Sgiliau Syrcas gyda Rhian Circus Cymru
Byddwn yn cyd-greu dilyniant o symudiadau gyda pheli, yn ymarfer taflu dwy bêl a dysgu triciau tair pêl. Gorffennwn gan chwarae’r gêm ‘Buckaroo Dynol’.
Mi fydd angen: 3 pêl jyglo (neu beli maint pêl tennis). Os nad oes gennych beli yn y tŷ, dewch a tri phâr o sanau oedolyn. Bydd angen nifer o wrthrychau ar gyfer y gêm ‘Buckaroo Dynol’ ac mi fydd pwyntiau ychwanegol ar gael, os oes gennych y gwrthrychau sydd yn y gêm!
Gweithdy Ysgol Goedwig
Gweithdy creu gyda deunyddiau naturiol. Dewch i fwynhau creu patrymau gyda dail a blodau, a chreu cymeriad neu greadur gyda chlai a’i addurno gyda deunyddiau naturiol.
Mi fydd angen:
Darn o gotwm tenau
Morthwyl rwber
Dail gwyrdd a phetalau blodau lliwgar
Darn o bren/carreg i weithio arno
Clai neu play-dough
Deunyddiau naturiol i greu gwallt, breichiau, coesau, cyrn, e.e. dail, brigau, côn pîn
Gweithdy Drama a Dawns gyda Trystan & Rhianna
Mae’n tiwtoriaid Dawns a Drama talentog am fod yn arwain sesiwn fywiog i gloi’r diwrnod gyda gemau a ‘top tips’ drama a digonedd o ddawnsio – un parti mawr i orffen!
Gweithdy Band Gwallt Pom Pom Alis Knits
Gweithdy band gwallt pom pom gydag Alis Knits! Mae headbands blodeuog yn boblogaidd iawn yn gwyliau’r haf, felly mae Alis am ddangos i chi sut allwch chi neud rhai bach eich hun, gyda defnydd sydd gennych chi yn y tŷ. Byddwch yn ofalus gyda’r gwn glud, gwnewch yn siŵr bod yn oedolyn yn helpu chi gyda’r rhan yna! Mwynhewch!
Kizzy – tu ôl i’r gân
Sesiwn wedi ei recordio’n arbennig i Tafwyl Digidol gan Kizzy Crawford, y gantores a’r gyfansoddwraig amryddawn sy’n adnabyddus am ei steil unigryw o berfformio “soul, jazz a gwerin”. Bydd cyfle i blant o bob oed glywed beth sy’n ei hysbrydoli wrth gyfansoddi cân.
Bunting Efa Lois
Beth am addurno’r tŷ neu’r ardd gyda bunting Tafwyl arbennig wedi’i ddylunio gan Efa Lois?! Dyma fideo bach yn dangos sut i fynd ati i addurno, a dyma’r templed i chi argraffu gartref.
Gweithdy Tie-Dye gyda Heini Thomas
Bydd Heini Thomas, sy’n arbenigo mewn dylunio ffasiwn, yn dangos dwy ffordd wahanol o greu crysau-t ‘tie dye’ gan ddefnyddio eitemau o’r cartref. Mae ‘tie dye’ ym mhobman eleni ac yn ddigon hawdd i’w wneud, ac yn ffordd wych o ailgylchu hen grysau-t.
Top tips ar sut i flogio gydag Ameer
‘Top Tips’ ar sut i flogio, gydag Ameer Davies-Rana! Dyma ffordd wych o gadw dyddiadur byw, felly ymunwch ag Ameer i ddarganfod mwy am sut i greu cynnwys.
Gêm Ffawd Tafwyl gan Efa Lois
Cofio rhain?! Argraffwch y templed yma, gwyliwch y fideo i’ch atgoffa sut i fynd ati i blygu – a mwynhewch!
Gweithdy Anadlu ac Ymlacio gydag Eva Huw
Ymunwch â’r tiwtor ioga Eva Huw mewn gweithdy ‘Anadlu ac Ymlacio’ i blant, lle byddwch yn dysgu dwy ffordd hwyliog o gysylltu â’ch anadl, gwella eich ffocws a dysgu ymlacio.
Rubicon Dance
Sesiwn llawn hwyl gyda Aisling o Rubicon Dance – y sefydliad dawns cymunedol.
Sgiliau Perfformio gyda Jessica Robinson
Mae Jessica Robinson yn Soprano Gymreig yn wreiddiol o Sir Benfro sydd wedi perfformio ar lwyfan yr Albert Hall. Mi fydd hi’n rhannu ei phrofiadau hi am berfformio, sut i ymdopi â nerfau a datblygu eich sgiliau perfformio.
Cywioci
Dyma gyfle gwych i ti ganu ar dop dy lais gyda Cyw a’i ffrindiau. Dewis o ganeuon poblogaidd llawn hwyl, a chyfle i ddilyn y geiriau ar y sgrin.
Trefnir gan Boom Plant – cyw.cymru