Cwestiynau Cyffredin
Pam ’nôl yn y Castell?
- Rydym yn dychwelyd i’r castell gan nad yw’n bosibl defnyddio caeau Cooper ym Mharc Bute eleni.
- Byddwn yn defnyddio’r seilwaith sydd yn y Castell yn barod, gan hefyd defnyddio tu cefn a thu blaen y Castell i ehangu safle Tafwyl.
Beth yw capasiti y safle eleni?
- Mae’r lleoliad yn caniatáu i 8,000 o bobl fod ar safle Tafwyl yn y Castell ar unrhyw adeg. Bydd staff yn rheoli’r niferoedd i mewn ac allan o’r fynedfa / allanfa.
A bydd angen ciwio?
- Gobeithiwn na fydd angen ciwio ond ar yr adegau mwyaf prysur mae’n bosibl bydd angen ciwio.
Ble bydd mynedfa Tafwyl?
- Bydd mynedfa/allanfa i mewn i’r Castell o Barc Bute ond bydd hwn yn cau am 8:30yh. Hefyd, bydd modd gadael y Castell drwy’r fynedfa flaen i fynd i’r dref.
- Ar ddiwedd y noson bydd mynedfa flaen a chefn y castell ar agor ar gyfer gadael y safle. Gofynnwn i chi ddilyn cyfarwyddiadau’r staff wrth adael.
Pryd mae’n agor?
- Mae’r amseroedd yn newid bob dydd.
- Bydd yr amserlen ar gael cyn y digwyddiad.
A oes angen tocyn?
- Mae Tafwyl yn ŵyl benwythnos ddi-docyn, rad ac am ddim.
- Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar gyfer yr ardal newydd ‘Tocyn Aur’ ac efallai bydd angen bwcio sesiynau ‘Llais’ o flaen llaw.
Ga i ddod â’m ci?
- Dim ond cŵn cymorth sy’n cael dod i safle Tafwyl.
- Nid oes caniatâd i unrhyw gŵn neu anifeiliaid anwes eraill.
Ga i ddod â chadair?
- Na, ni allwch ddod â
- cadeiriau,
- seddi sy’n plygu,
- seddi cludadwy neu seddi inflatable
A oes lle i eistedd?
- Oes! Mae seddi ar gael o amgylch safle Tafwyl.
- Gallwch eistedd ar flanced bicnic fach mewn rhai mannau addas.
A allaf ddod â diod?
- Gallwch ddod â photel ddŵr wedi’i selio neu botel wag i’w hail-lenwi.
- Rhaid prynu pob diod arall ar y safle.
- Peidiwch â dod â gwydr.
Beth am fwyd?
- Cewch — mae croeso i chi ddod â’ch bwyd eich hun ond bydd digonedd o arlwy wych ar y maes.
- Mae stondinau bwyd gyda llawer o ddewis, gan gynnwys opsiynau fegan a di-glwten.
Pa eitemau na chaniateir?
- Bagiau mawr mwy na bag cefn.
- Cadeiriau.
- Gwydr ac unrhyw gynhwysydd gwydr (e.e. botel bersawr).
- BBQs neu declynnau nwy.
- Dronau.
- Pebyll, gazebos neu ymbarelau mawr.
- Beiciau, sgwteri neu sglefr-fyrddau (oni bai eu bod yn gymhorthion symudedd)
- Chwistrell aerosol.
A oes parcio?
- Nid oes llefydd parcio ar y safle.
- Mae llawer o feysydd parcio yng nghanol Caerdydd y gallwch gerdded o’r rheiny i’r digwyddiad.
- Mae man i gloi beic tu allan i brif fynedfa’r ŵyl.
Sut mae cyrraedd Tafwyl?
- Mae Tafwyl yng nghanol Caerdydd, felly mae’n hawdd dod ar y bws neu’r trên.
A yw Tafwyl yn addas i blant?
- Ydy! Mae ardal weithgareddau plant penodol gyda digon o weithgareddau i’w diddanu.
A oes toiledau?
- Oes, gan gynnwys toiledau hygyrch a chyfleusterau newid babanod.
A yw Tafwyl yn hygyrch?
- Ydy, mae Tafwyl yn ymdrechu i fod yn ŵyl hygyrch i bawb.
- Cysylltwch o flaen llaw os oes gennych anghenion arbennig.
- Mae band arbennig sy’n rhoi mynediad i’r platfform gwylio hygyrch a gwibgiw i osgoi gorfod aros yn hir.
Beth os bydd hi’n bwrw glaw?
- Mae Tafwyl yn parhau hyd yn oed os yw’n glawio.
- Dewch â chôt law — ond nid ymbarél mawr.
