DeliverRoast

Cinio rhost i’ch drws! Bydd cynnig arbennig dros benwythnos Tafwyl gyda phryd i ddau am £25. Opsiynau Halal a figan ar gael.
Archebu: DeliverRoast delivery from Plasnewydd – Order with Deliveroo
Cinio rhost i’ch drws! Bydd cynnig arbennig dros benwythnos Tafwyl gyda phryd i ddau am £25. Opsiynau Halal a figan ar gael.
Archebu: DeliverRoast delivery from Plasnewydd – Order with Deliveroo
Cegin bwdin yn gweini waffl, crempogau llaeth enwyn, toes cwci, potiau cacen gaws a fferins. Bydd bwndel Tafwyl arbennig ar gael dros y penwythnos gyda 2 x Waffl neu does cwci a 2 x ysgytlaeth am £25. Opsiynau figan ar gael.
Archebu: Desserts@108 delivery from Plasnewydd – Order with Deliveroo
Bwyty brecwast a brinio yn gwerthu amrywiaeth o frecwast, crempogau a sudd ffres. Bydd ‘Pryd Pen Mawr Tafwyl’ gyda 3 selsigen, bacwn, wyau, madarch, bins a thost yn boblogaidd heb amheuaeth!
Archebu: Fry’d Up delivery from Plasnewydd – Order with Deliveroo
Cegin figan annibynnol yn gwerthu amrywiaeth o brydau, danteithion melys, sudd a smwddis. Bydd ambell bryd arbennig ar gyfer Tafwyl dros y penwythnos, gan gynnwys byrgyr ‘cyw-iâr cogio’.
Archebu: Shrub Grub delivery from Plasnewydd – Order with Deliveroo
Dros y blynyddoedd mae Tomos & Lilford wedi torri syched cynulleidfa Tafwyl gyda’u cwrw crefft wedi ei seilio ar ryseitiau traddodiadol Cymreig. Bydd y bragdy annibynnol o Fro Morgannwg yn bragu’n arbennig ar gyfer Tafwyl eto eleni gan greu ‘Cwrw Canu’.
Archebu: Tomosandlilford.com
Cynnig arbennig: 10% gyda ‘cwrwcanu’ tan ddiwedd Mai
Pizza steil Efrog Newydd gan Bois y Pizza.
Archebu: west.pizza / https://www.instagram.com/westpizzacf/
Cynnig arbennig: 10% i ffwrdd wrth ddweud ‘Caru Tafwyl’ wrth archebu
Mae Oasis Cardiff yn elusen sy’n cynnig croeso cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghaerdydd. Bydd gan glwb swper wythnosol Oasis thema arbennig ar gyfer Tafwyl yn dathlu diwylliant, bwyd a threftadaeth Bae Teigr. Mwynhewch ddanteithion gan y gogyddes Geraldine Griffith gan gynnwys cyri gafr neu datws melys a chacen rum a banana.
Archebu: Bydd modd archebu rhwng 8 – 13 Mai yma gan gasglu ar ddydd Gwener 14 Mai.
Byrgyrs unigryw yn syth o’r fferm sy’n dathlu Cymru ymhob ansh.
Archebu: ansh.cymru
Cynnig arbennig: 10% i ffwrdd wrth ddweud ‘Tanshwyl’ wrth archebu.
Bocs Picnic yn y Parc
Ffansi picnic yn yr ardd i ddathlu penwythnos Tafwyl? Ma’r Parc Deli yma gyda’n UNION be’ sydd angen arnat ti!
2 Frechdan / 2 Rhôl Selsig / 2 Sgiwer Cyw Iâr / 2 Sgiwer Selsig Sesame / 2 Fentimans / 2 Creision Pipers / 2 Gacen
£20
Archebu: https://parcdeli.com/
Sesiwn blasu gwin rhithiol gyda Cwîn y Gwîn, gan flasu rhosliw Cymreig o Tintern Parva, gwyn steil Ffrengig o Australia a gwin coch organig o ogledd Sbaen.
Mi fydd eich pecyn yn cynnwys mesur 125ml o bob gwin, tudalen blasu i sgwennu nodiadau blasu eich hunan a mynediad at fideo yn eich tywys trwy bob gwin.
Mi fydd eich pecyn yn cyrraedd ar ddydd Gwener 14 Mai neu ddydd Sadwrn 15 Mai.
Archebu: £15 https://vinvancaerdydd.co.uk/products/tafwyl-virtual-wine-tasting-pack