Mae Gwrach-od wedi ei ysbrydoli gan Ceridwen, Blodeuwedd ac Arianrhod – tair conglfaen nerthol ein mytholeg. Fe gawson ni ddoethineb, gwytnwch a gwylltineb yn rhodd ganddyn nhw. Gyda cherddoriaeth heintus gan HMS Morris, mae Gwrach-od yn eich gwahodd i gydio’ch odrwydd gerfydd ei gyrn a’ch perswadio i ddawnsio’n wyllt afreolus.
Dewch! Ymunwch yn y ddefod!
Darn symud awyr agored newydd yw Gwrach-od a grëwyd gan Juliette Manon ac Elan Isaac a gomisiynwyd gan Fwrsariaeth Theatr Stryd Cymru 2026 gan Tafwyl, Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.