Y Niwl

 

Dydd Sadwrn / Prif Lwyfan / 18.00 – 18.40

Band roc offerynnol a ffurfiwyd yng Ngogledd Cymru yn 2009 yw Y Niwl. Yn fand syrff yn wreiddiol mae eu harddull wedi symud ymlaen i ymgorffori ystod ehangach o ddylanwadau erbyn hyn, er yn dal i gadw’r agwedd offerynnol. Yn 2011 bu’r band ar daith o amgylch y DU, Ewrop, UDA, a Japan gyda Gruff Rhys o’r Super Furry Animals. Enwir The Sunday Times Y Niwl yn Albwm yr Wythnos ym mis Ionawr 2011 a derbyniodd adolygiadau gwych gan yr NME. Mae’r trac Undegpedwar wedi dod yn ffefryn ar draws y wlad ers iddo gael ei ddefnyddio i’r sioe deledu BBC Football Focus.