Cafodd Wigwam ei ffurfio ym mis Ionawr 2017. Gig cyntaf nhw oedd yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o nosweithiau cymdeithasol y Chweched Dosbarth. Maent yn datblygu a chwarae caneuon gwreiddiol, gydag amrywiaeth o ganeuon Roc a Rôl trwm a chaneuon ychydig ysgafnach, weithiau gyda blas fwy Funk iddynt.

Maent wedi chwarae dros Gymru ers ffurfio, gan gigio gyda rhai o fandiau mwyaf y sin, ac yn bwriadu rhyddhau cynnyrch dros yr haf.

Aelodau’r band yw: Gareth- prif lais; Elis- gitâr; Griff- gitâr fas; Rhys- gitâr; a Dan- drymiau.