Daeth Tafwyl i’r brig yng nghategori Gŵyl Orau Caerdydd yng Ngwobrau Cerddoriaeth Caerdydd yn ddiweddar.

Yn yr un categori a Gŵyl Eradication, The Future Is Female, Gŵyl Hub a Gŵyl Sŵn – Tafwyl ddaeth i’r brig diolch i bleidlais gyhoeddus.

Sefydlwyd Gwobrau Cerddoriaeth Caerdydd i ddathlu talent gerddorol y ddinas trwy wobrwyo llwyddiannau sefydliadau ac unigolion sydd wedi cyfannu at sin cerddorol unigryw a bywiog Caerdydd.

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi pleidleisio a chefnogi’r ŵyl. Llongyfarchiadau mawr iawn i holl enillwyr y noson, mae sîn cerddoriaeth Caerdydd yn sicr mewn dwylo da ac yn mynd trwy gyfnod hynod gyffrous.

Bydd Tafwyl 2018 yn adeiladu ar lwyddiant diweddar yr ŵyl, ac yn dychwelyd i Gastell Caerdydd Mehefin 30 a Gorffennaf 1.