Mabli Tudur

Mae Mabli’n 18 mlwydd oed a newydd orffen astudio Drama, Cerddoriaeth a Chymraeg yn Ysgol Plasmawr. Ei breuddwyd yw bod yn actores ar lwyfannau’r West End a’r sgrin fawr. Mae’n gobeithio gwireddu’r freuddwyd hon drwy fynychu’r Brifysgol i astudio Actio ym mis Medi. Yn dilyn ei theulu hynod gerddorol, mae Mabli wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth ei hunain ers bron i ddwy flynedd erbyn hyn – pwnc sydd yn dangos ei angerdd tuag at y Gymraeg yn glir. Cafodd drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru blwyddyn ddiwethaf efo’i sengl, Temtasiwn. Ei bwriad yw rhyddhau EP/albwm yn hwyrach y flwyddyn hon.