Kizzy Crawford

Dydd Sul / Llwyfan Acwstig / 18:00 – 19:00

Siaradwraig Cymraeg gyda threftadaeth Bajan yw Kizzy Crawford. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Kizzy wedi datblygu soffistigeiddrwydd cynyddol i’w chyfansoddi a’i pherfformio, sy’n cael ei ategu gan ei llais pwerus sy’n dangos amrywiaeth a charisma. Ei huchelgais fel artist du Cymreig yw gwneud ei marc drwy ffiwsio jazz, gwerin a ‘soul’ dwyieithog, ac mae hi eisoes wedi cael canmoliaeth am ei gwaith ar rhegleni poblogaidd BBC Radio 1 a llawer fwy. Enillodd Kizzy cystadleuaeth ‘Brwydr y Bandiau’ yn Eisteddfod Genedlaethol 2013 yn ogystal â chystadleuaeth canwr-cyfansoddwr Cymraeg, lle derbyniwyd arian i recordio ei EP cyntaf ‘Temporary Zone’ gydag Amy Wadge (cyd-gyfansoddwr can Ed Sheeran ‘Thinking Out Loud’).