Ian Cottrell

Dydd Sul / Prif Lwyfan / 15:00 – 18:00

Roedd Ian Cottrell yn aelod o un o fandiau mwyaf poblogaidd y 90au, Diffiniad. Aeth ymlaen i gyflwyno sawl cyfres gerddoriaeth ar S4C, gan gynnwys Bandit, 4trac a Popcorn cyn troi’i law at gynhyrchu a chreu cyfresi megis Stwnsh Sadwrn ac Ysbyty Hospital. Mae’n un o DJs preswyl Clwb Ifor Bach ac mae hefyd yn un o sylfaenwyr Dirty Pop – parti nos Sadwrn gorau Caerdydd!