LLWYFAN Y PORTH

Noddir gan For Cardiff

Llwyfan perfformio tu allan i furiau Castell Caerdydd. Ymysg y perfformwyr bydd:

 

BASS 12

Band pres ‘Riot Jazz’ bywiog wyth darn sy’n dod â blas o New Orleans i Gaerdydd!

NANTGARW

Band ifanc bywiog o gerddorion talentog sy’n mwynhau perfformio alawon traddodiadol Cymreig mewn ffordd gyfoes ynghyd â chlocsio cyffrous a chanu.

Band Pres Llareggub      

Band pres o lechweddi llwyd a llychlyd gogledd Cymru sydd yn perfformio cymysgedd lliwgar o Hip Hop a dawns electronaidd â sain unigryw’r band pres traddodiadol.

Barracwda

Grŵp carnifal lliwgar, hapus, llawn bywyd yw Barracwda gyda dylanwadau o Frasil ac Affrica. Band llawn egni, sy’n siwr o’ch cael chi i ddawnsio.

Wonderbrass

Mae band pres mwyaf swnllyd Caerdydd yn dathlu 25 mlynedd o wneud cerddoriaeth yn Ne Cymru a thu hwnt eleni! Mae Wonderbrass yn ‘ffrwydrad sain’ sy’n dod â chymysgedd o jazz, ska, funk a hwyl New Orleans i Tafwyl eleni.

Sesiwn Werin

Sesiwn jamio gyda cerddorion ifanc cyffrous y sîn werin, gan gynnwys aelodau Calan, Vrï a Pendevig.