Ffair Tafwyl

Gorffennaf 1 + 2 2017
11:00 – 21:00

Yn dilyn wythnos o ddigwyddiadau, bydd y prif ddigwyddiad yn symud i gysgod coed a gwyrddni hyfryd Caeau Llandaf.

Unwaith eto bydd yr ŵyl yn dod a’r enwau mwyaf yng nghelfyddydau, diwylliant a chwaraeon Cymreig i Gaerdydd; ynghyd ag ardal bwyd stryd fawr. Mae mynediad i’r ŵyl yn rhad ac am ddim, gyda chroeso mawr i bawb ddod i ymuno i brofi’r ŵyl unigryw.  

Byddwn yn cyhoeddi rhaglen lawn Gŵyl Tafwyl yn fuan felly cadwch lygaid ar y wefan am y newyddion diweddaraf.