Eady Crawford

Mae Eadyth yn artist ifanc, sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth electronig ddwyieithog gyda dylanwadau gwerin. Mae’n brysur flwyddyn yma yn gweithio a pherfformio efo Sam Humphreys o Calan. Mae Eadyth wedi rhyddhau nifer o senglau a EP newydd yn ddiweddar o’r enw ‘cyfrinach’ a hefyd wedi cael cymorth gan Radio Cymru, cylchgrawn golwg, Y Selar, Radio Wales a S4C. Fe wnaeth Eadyth cystadlu ar Cân i Gymru eleni ac maen brysur iawn yn gigio ym mhob rhanbarth o Gymru.