DJ Dilys

Dydd Sadwrn / Prif Lwyfan / 11:00 – 15:00

O lethrau Cwm Gynfelyn i strydoedd Grangetown mae casgliad eclectic tiwns Dilys yn donic i draed diflas, ac yn addo llenwi unrhyw barti â bob math o foddion dawnsio – o hip hop a soul, i funk a disco.

Ar ôl ymddangos yng Ngŵyl Sŵn a Gŵyl Cam eleni, yn ogystal â chlybiau o amgylch Caerdydd, mae’n amlwg erbyn hyn os yw’r parti’n un da, mae’n un Dilys.