Gwybodaeth: Ffair Tafwyl

Cost: Mae mynediad i Tafwyl am ddim. Bydd rhai gweithgareddau yn codi ffi bach, ond mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim. Os ydych am grwydro o amgylch y castell ei hun oddi ar faes Tafwyl bydd angen talu am docyn mynediad neu wneud cais am ‘Allwedd Castell Caerdydd’.

Allwedd Castell Caerdydd: Os ydych yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd gallwch wneud cais am Allwedd y Castell am un taliad o £6.50 yn unig sydd yn caniatáu mynediad am ddim i’r castell am dair blynedd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw holi yn Swyddfa Docynnau’r Castell gyda thystiolaeth eich bod yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd. Byddwch yn derbyn eich cerdyn Allwedd y Castell yn y fan a’r lle. Does dim angen i chi ddod â ffotograff gyda chi.

Alcohol: Mae Tafwyl wedi trwyddedu ardaloedd penodol o Gastell Caerdydd ac mae gennym bedwar bar eleni gyda llawer o gwrw, seidr, coctels, gwinoedd a gwirodydd lleol, fydd yn rhoi digonedd o ddewis i chi, ond ni fyddwch yn gallu dod â’ch alcohol eich hun ar y safle. Nid ydym wedi’n trwyddedu ar gyfer hyn, a bydd unrhyw un sy’n ceisio sleifio eu halcohol eu hunain heibio ein stiwardiaid cyfeillgar yn cael eu chwilio ac efallai bydd gofyn iddynt adael y safle. Bydd pob bar yn gweithredu polisi Her 25. Bydd rhaid i gwsmeriaid sydd o dan 18 oed adael safle’r ŵyl os canfyddir eu bod ag alcohol yn eu meddiant.

Gwydr: Ni chaniateir gwydr ar unrhyw ran o’r safle.

Amseroedd: Bydd maes Tafwyl yn agor am 11.00 ac yn cau am 21.00.

Dŵr: Bydd dŵr am ddim ar gael o’r Pwynt Gwybodaeth a St John.

Hygyrchedd: Mae safle Tafwyl ei hun yn gwbl hygyrch i bawb. Ceir toiledau anabl ar faes yr ŵyl a chyflysterau newid cewyn. Mwy o wybodaeth am hygyrchedd Castell Caerdydd ar gael yma.

Ymweld gyda Chŵn: Ni all cŵn fod ar y safle heblaw am gŵn tywys.

Eitemau Gwaharddedig:

  • DIM bagiau yn fwy na maint A4
  • DIM alcohol neu fflasgiau
  • DIM gwydr
  • DIM cyffuriau anghyfreithlon
  • DIM gwerthu anghyfreithlon neu heb awdurdod
  • DIM cyllyll neu arfau o unrhyw fath
  • DIM eitemau a allai beryglu diogelwch y cyhoedd
  • DIM tân gwyllt
  • DIM pebyll neu ganopïau
  • DIM dodrefn
  • DIM drones
  • DIM taflenni, samplau, rhoddion neu eitemau hyrwyddo
  • Gall eitemau ychwanegol cael eu gwahardd gan y Staff Diogelwch a thîm Rheoli Digwyddiadau

Bydd eitemau anniogel yn cael eu gwahardd heb atebolrwydd i’r trefnydd.