Tafwyl 2020
Tafwyl 2020
Mae Menter Caerdydd yn falch i gyhoeddi bydd Gŵyl Tafwyl 2020 yn cael ei chynnal dros benwythnos 19 – 21 o Fehefin 2020. O ganlyniad i’r diddordeb cynyddol yn yr Ŵyl, bydd Tafwyl yn symud i gartref newydd ym mhrydferthwch Parc Bute, dafliad carreg tu ôl i Gastell Caerdydd.
Cyhoeddir hefyd Adroddiad Gwerthuso Tafwyl 2019 sy’n nodi ymateb anhygoel ein cynulleidfa i’r Ŵyl eleni.