Candelas

Dydd Sul / Prif Lwyfan / 19:00 – 19:40

Mae un o fandiau amlycaf y sin roc Gymraeg yn dychwelyd i gloi Prif Lwyfan Tafwyl gyda’u cerddoriaeth indi roc bywiog. Mae dilyniant Candelas wedi tyfu yn aruthrol wedi rhyddhau ei hail albwm ‘Bodoli’n Ddistaw’. Cafodd yr albwm ei lawnsio nol ym mis Rhagfyr 2014 yn Neuadd Buddug, Y Bala tra’n cael ei ddarlledu’n fyw ar Radio Cymru. Wedi blwyddyn wallgof o gloi gwyliau dros Gymru a bod yn rhan o brosiect Gorwelion y BBC, mae’r band rwan yn nol yn y stiwdio yn gweithio ar EP a meddwl am eu trydedd albwm.