Bryn Fon

Dydd Sul / Prif Lwyfan / 20:00 – 21:00

Mae Bryn Fôn yn un o gewri’r byd adloniant Cymraeg, a’i dalent fel perfformiwr ac actiwr yn ategu ei ddoniau lleisiol. Daeth i amlygrwydd gyntaf fel canwr Crysbas, ac yna’n ddiweddarach fel prif ganwr Sobin a’r Smaeliaid. Erbyn hyn, mae’n ymddangos yn rheolaidd ar lwyfannau Cymru gyda’i fand ei hun. Mae’n un o’r ychydig sydd wedi llwyddo i gyfuno gyrfa lwyddiannus fel actor gyda’r byd canu, a gall gyflwyno baled deimladwy neu gan werin draddodiadol gyda’r un effaith a’r gan roc fwyaf pwerus.