Mae Bryn Fon yn un o gewri’r byd adloniant Cymraeg, a’i dalent fel perfformiwr ac actiwr yn ategu ei ddoniau lleisiol. Daeth i amlygrwydd gyntaf fel canwr Crysbas, ac yna’n ddiweddarach fel prif ganwr Sobin a’r Smaeliaid, a chyhoeddwyd caneuon gorau Sobin ar label Sain. Erbyn hyn, mae’n ymddangos yn rheolaidd ar lwyfannau Cymru gyda’i fand ei hun.