Blas o’r ŵyl

Noddir yr ardal fwyd gan Wriggle 

Fe holon ni rai o’n stondinwyr bwyd am eu hoff fwydydd nhw…a dyma nhw, peidiwch â cholli’r rhain yn Tafwyl!

Brother Thai: Mae’n rhaid i ni ddewis ein Roti Cig Eidion Sbeislyd! Yn sicr ein pryd fwyaf poblogaidd – allwn ni ddim ei gael e allan ddigon cyflym!

Ffwrnes: Jiawl Bach yw ein hoff pizza! Toes meddal, tomatos San Marzano, salami sbeislyd o Sir Fynwy a tsilis.

Tukka Tuk: Cyw iâr Kerala a Sglodion – cyw iâr wedi ffrio gyda sinsir, chili gwyrdd, dail cyri, hadau coriander gyda sglodion Bombay, salad, ciwcymbr wedi’i biclo, winwnsyn coch, siytni afal a saws chartref. Yum!

Welsh Creperie Co: Ein ffefryn…crepe caws gafr, nionod wedi ei caramileiddio, cnau a spinach.

Bodlon: Cig Eidion Cymreig wedi ei goginio yn araf mewn speisys – mewn bun brioche gyda mayo horseradish a winwns.

Science Cream: Ni methu dewis rhwng ein Strawberry Fluff Cone – hufen iâ mefus Cymreig gyda chôn wedi’i lenwi â marshmallow a’n Chocloate Cookie Dough – toes cwci siocled, hufen iâ siocled, saws siocled!

Hard Lines Coffee: Ein hoff gacennau yw ein Matcha a Pistachio, Pear a Pecan, Flapjacks Menyn Cnau a siocled a llawer o gacenau figan eraill!

Cavavan: Da ni’n caru’r lolis alcoholic hwyl sydd gyda ni! Mae’r un blas mojito rum, mefys a mint yn lyfli!