Band ôl-roc, ôl-pync o Gaerfyrddin, De Orllewin Cymru, yw Adwaith, sef Gwenllian, Hollie a Heledd. Agorodd pennod ddewr a chyffrous yn hanes cerddoriaeth Gymreig pan ryddhawyd eu sengl cyntaf, ‘Pwysau’ yn 2016. Yn sgil llwyddiant ‘Pwysau’ a thri recordiad newydd a ryddhawyd yn 2017 a sengl dwbl A ym mis Chwefror 2018, derbyniwyd adolygiadau clodwiw ar unwaith a fe’u chwaraewyd yn gyson ar sianelau radio megis BBC Radio 1, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, BBC Radio 6 ac Amazing Radio. Recordiodd Adwaith sessiwn radio gyda Huw Stephens yn stiwdio eiconig y BBC ym Maida Vale. Hefyd darlledwyd set fyw ganddynt ar sioe Adam Walton ar BBC Cymru o Lwyfan Cyflwyno y BBC yng ngwyl FOCUS Wales. Bu haf 2017 yn brysur gydag ymddangosiadau mewn gwyliau cerddorol megis Llwyfan Gorwelion/Horizons yng ngŵyl Rhif 6 a Gŵyl Latitude lle cyflwynwyd y band ar lwyfan cyflwyno’r BBC fel ‘y band mwyaf cyffrous o Gymru ers degawdau’.

@Adwaithband